SL(5)277 – Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018

Cefndir a Diben

Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi, mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, y cyrff a restrir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn at ddibenion cynnwys o fewn Cynnig Cyllidebol yr adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y cyrff hynny.

Mae paragraff 2.2 o'r Memorandwm Esboniadol i'r Gorchymyn yn cadarnhau:

Drwy gynnwys adnoddau'r cyrff dynodedig yn y cynnig cyllidebol, bydd hynny'n lleihau anghysondebau rhwng y Gyllideb, Cynnig y Gyllideb a'r cyfrifon cyfunol, ond ni fydd yn effeithio o gwbl ar derfynau'r cyrff hynny o ran adnoddau.

Y weithdrefn

Negyddol.

Craffu ar faterion technegol

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Roedd gan Weinidogion Cymru ddewis o weithdrefn ar gyfer yr offeryn hwn yn unol ag adrannau 126A(9) a 126A(10) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a dewisodd y weithdrefn negyddol, sy'n ymddangos yn briodol.

Goblygiadau sy’n deillio o adael yr Undeb Ewropeaidd

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb y llywodraeth.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

20 Tachwedd 2018